Mae lifrau ar gyfer eich cerbyd yn hysbyseb 24 awr ar gyfer eich busnes, a hynny os ydych wedi parcio ar ochr heol neu’n gyrru o gwmpas eich ardal. Ymfalchiwn ein bod yn sicrhau bod dyluniadau ar gyfer eich cerbydau yn gwneud argraff barhaol, boed yn gar, fan, bws neu lori.
Mae ein gwasanaeth graffeg ar gyfer lifrau ar gerbydau yn cynnig dyluniad llawn ac fe fyddwn yn ebostio llun o’ch cerbyd er mwyn i chi ei gymeradwyo cyn i ni ei argraffu a’i osod, fel y gallwch newid unrhyw ddyluniad neu weld sut bydd y canlyniad terfynol yn edrych.
Gallwn gynhyrchu pob math o lifrau i gerbydau – torri llythrennau finyl, argraffu finyl yn ddigidol, arwyddion magnetig a thorri citiau finyl adlewyrchol. Mae ein clientiaid ar gyfer lifrau ar gerbydau yn cynnwys amrediad eang o fusnesau, o gwmniau cludiant mawr a chwmniau bysiau mawr i fusnesau bach gyda llai o gerbydau ar yr heol.